Myfyrio a’r camau nesaf......
Wrth i’ch rhaglen gwella ddatblygu bydd angen i chi ystyried gwerthuso a lledaenu eich cynlluniau.
Mae gwerthuso yn golygu penderfynu ar deilyngdod, gwerth ac arwyddocâd pwnc yn systematig, gan ddefnyddio meini prawf wedi’i lywodraethu gan set o safonau. Prif bwrpas y gwerthusiad, yn ychwanegol at gael mewnwelediad i’r mentrau cynt neu sy’n bod eisoes, yw caniatáu myfyrio a helpu i ddynodi newid ar gyfer y dyfodol.
Rhaid ystyried lledaenu’r gwaith i ganiatáu eraill i addasu a mabwysiadu eich gwaith gwella sy’n fanteisiol i ystod eang o ddefnyddwyr gwasanaeth a staff.

Dadansoddiad SWOT
Mae dadansoddiad SWOT (neu fatrics SWOT) yn dechneg cynllunio strategol a ddefnyddir i helpu unigolyn neu sefydliad i ddynodi cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau sy’n berthnasol i gystadleuaeth busnes neu gynllunio prosiect. Mae wedi’i ddylunio i’w ddefnyddio yn y camau rhagarweiniol o’r broses gwneud penderfyniadau a gellir ei ddefnyddio fel offer i werthuso sefyllfa strategol dinas neu sefydliad.